| Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 12/05/2010 |
![]() |
|
Galw am wybodaeth am Wasanaethau HIV ar gyfer Cyfeiriadur Gwasanaeth newyddBydd rhwydwaith newydd, Cyswllt HIV Cymru Gyfan, fydd yn cael ei redeg gan Rwydweithiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cael ei lansio’n fuan gyda chyfeiriadur gwasanaeth newydd ar-lein. Bydd gan Cyswllt HIV Cymru Gyfan wefan wedi ei neilltuo fydd yn cael ei rheoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gweinyddu gan gydlynydd Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, Adam Jones. Bydd Cyswllt HIV Cymru Gyfan wedi ei anelu at bobl sy’n byw gyda HIV ac ymarferwyr yn y maes, sydd yn rhoi cylch gorchwyl gwahanol iawn iddo o’i gymharu â gwefan Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, sydd wedi ei anelu yn benodol at ymarferwyr. Un o’r swyddogaethau fydd yn cael ei gynnwys ar wefan Cyswllt HIV fydd Cyfeiriadur Gwasanaeth, yn rhestru gwasanaethau ar draws Cymru (a thu allan i Gymru hefyd) sydd wedi eu hanelu naill ai at bobl sy’n byw gyda HIV neu ymarferwyr sy’n gweithio ym maes HIV. Os ydych yn gweithio i wasanaeth neu’n gwybod am wasanaeth y gellir ei ychwanegu at y Cyfeiriadur Gwasanaeth, a fyddech gystal â llenwi’r ffurflen sydd ar gael ar wefan Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan a’i hanfon at gydlynydd y rhwydwaith. Gallwch ei dychwelyd i Cyswllt HIV Cymru Gyfan: · Drwy’r Post: Iechyd Cyhoeddus Cymru, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, · Ffacs: 029 2022 6749 · Ebost: hivnetwork@wales.nhs.uk Caiff Cyswllt HIV Cymru Gyfan ei lansio’n fuan ond os hoffech fwy o wybodaeth yn y cyfamser, cysylltwch ag Adam Jones ar 029 2082 7625.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 12/05/2010 |
|