Ymgynghoriadau Presennol
Ymgynghoriadau Presennol
Diogelu plant a phobl ifanc rhag eu camddefnyddio’n rhywiol
Mae’r canllaw yma wedi ei baratoi a’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn atodiad i Gweithio gyda’n Gilydd ac maent i’w darllen gyda’i gilydd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/06/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/08/2010
Amcan y canllaw statudol hwn yw cefnogi gweithredu Protocol Cymru Gyfan: Diogelu a Hybu Lles Plant y mae Perygl eu bod yn cael eu Camdrin drwy eu Camddefnyddio’n Rhywiol (Mis Hydref 2008). Cyhoeddwyd y protocol hwnnw yn rhan 5 o Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
Ar ôl yr ymgynghoriad, dyma fydd yn cymryd lle Diogelu Plant sy’n ymwneud â Phuteindra (Adran Iechyd, Adran dros Addysg a Chyflogaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2000).
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cynnulliad Cymru
Tudalennau Ymgynghori
Mae NICE yn datblygu canllawiau iechyd y cyhoedd ar ddarpariaeth gwasanaethau atal cenhedlu y GIG ar gyfer pobl ifanc dan anfantais gymdeithasol hyd at 25 oed.
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn rhwng 25 Mai a 23 Mehefin 2010.
Mae mwy o fanylion am y canllawiau ar gael ar
wefan NICE.
(Mae’r holl ddolenni yn Saesneg oni nodir fel arall)
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am eich sylwadau ar y fanyleb gwasanaeth a ddatblygwyd i sicrhau cysondeb ar draws Cymru yn y gwasanaethau a ddarperir i oedolion sydd wedi dioddef camdriniaeth neu ymosodiad rhywiol.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
12/07/2010