Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 22/01/2010  
Osgoi'r Gwe-lywio
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English
 

Ymaelodi

Pam ymuno?

Mae ymaelodi â Chyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan yn rhad ac am ddim ac mae’n rhoi’r cyfle i chi rwydweithio a rhannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd rhywiol ledled Cymru.

Fel aelod o’r Cyswllt Iechyd Rhywiol byddwch yn cael y manteision canlynol:-
  • Mynediad i’n cynadleddau cenedlaethol, sy’n cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn  
  • Copïau o’n cylchlythyr chwarterol RHYWdwaith 
  • Y cyfle i gyfrannu at ein Cronfa Ddata Rhannu Arferion 
  • Mynediad i weithgareddau eraill Cyswllt Iechyd Rhywiol a’r wybodaeth ddiweddaraf amdanynt. 

Pwy sy’n aelodau?

Mae gennym gynrychiolaeth o sbectrwm eang o weithwyr proffesiynol gan gynnwys:
  • Gweithwyr ieuenctid 
  • Ymarferwyr iechyd y cyhoedd 
  • Nyrsys ysgol 
  • Athrawon 
  • Fferyllwyr 
  • Gwasanaethau brys 
  • Gweithwyr yn y sector preifat 
  • Clinigau meddygaeth genhedlol-wrinol.
Yn ogystal â hyn, rydym wastad yn chwilio am aelodau newydd o sectorau eraill

Sut gallaf ymuno?

Os hoffech ddod yn aelod o Gyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, llenwch y ffurflen ymaelodi ar-lein. Neu gallwch lawrlwytho’r ffurflen ymaelodi (Word)/ffurflen ymaelodi (PDF) neu cysylltwch â Adam Jones i gael copi caled.


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 22/01/2010