| Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 07/01/2010 |
![]() |
|
Arweiniad CyffredinolMae Papur Gwaith Drafft ar gael ar hyn o bryd o’r enw 'Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru 2009-2014'. Roedd hwn yn agored i ymgynghoriad hyd at 5 Hydref 2009. Fframwaith Strategol ar gyfer Hybu Iechyd Rhywiol yng Nghymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) Strategaeth iechyd rhywiol i Gymru, a lansiwyd yn 2000 a’r nodau canlynol:
Fframwaith Strategol ar gyfer Hybu Iechyd Rhywiol yng Nghymru: Cynllun Gweithredu ôl-ymgynghori (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) Cynllun gweithredu diwygiedig mewn ymateb i ymgynghori ar ‘Fframwaith Strategol ar gyfer Hyrwyddo Iechyd Rhywiol yng Nghymru'. Fframwaith Strategol ar gyfer Hybu Iechyd Rhywiol yng Nghymru: Adroddiad ar Gynnydd Tachwedd 2003 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) Adroddiad yn nodi cynnydd o dan bob amcan yn y cynllun gweithredu. Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) Nodi ansawdd y gwasanaethau y mae gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yr hawl i’w ddisgwyl a’i dderbyn yng Nghymru. Iechyd Rhywiol a Phlant sy’n Derbyn Gofal (Plant yn Gyntaf) Taflenni arweiniad ar iechyd rhywiol i blant sy’n derbyn gofal Teenage Pregnancy First Steps: Guidance for Local Authorities and Primary Care Trusts on Effective Delivery of Local Strategies (Yr Adran Addysg a Sgiliau) Arweiniad ar feichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau, yn cynnwys adolygiadau manwl ar lwyddiant ardaloedd lleol wrth leihau beichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau a dadansoddiad o’r ffactorau sylfaenol sy’n effeithio ar ymddygiad rhywiol pobl ifanc a’r canlyniadau dilynol. Bwriedir yr arweiniad i Loegr ond gallai fod o ddiddordeb hefyd i weithwyr proffesiynol iechyd rhywiol sy’n gweithio yng Nghymru, yn yr un modd â’r ddwy ddogfen gysylltiedig isod. Teenage Parents Next Steps: Guidance for Local Authorities and Primary Care Trusts (Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd) Arweiniad ar weithio i gefnogi rhieni yn eu harddegau, yn cynnwys tystiolaeth ar ganlyniadau bod yn rhieni yn eich arddegau a’r ffactorau ategol. Fel uchod, arweiniad i Loegr yw hwn ond gallai fod o ddefnydd i weithwyr proffesiynol yng Nghymru. Canllawiau ar feichiogrwydd yn yr arddegau, a fwriadwyd ar gyfer Lloegr ond a all fod o ddiddordeb hefyd i broffesiynolion iechyd rhywiol sy’n gweithio yng Nghymru Methu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, neu’n gwybod am beth gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol ar y dudalen hon? Cysylltwch ag Adam Jones gydag unrhyw awgrymiadau, ymholiadau neu wybodaeth newydd.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 07/01/2010 |
|