![]() |
Cwrs STIF27 Hydref 2010Y Ganolfan Gynadledda, Llanfrechfa Grange, Cwmbrân NP44 8YN Nod y cwrs yw rhoi’r wybodaeth sylfaenol, y sgiliau a’r agweddau i’r cyfranogwyr ar gyfer rheoli heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) yn effeithiol y tu allan i leoliad GUM.
Argymhellir yn gryf bod y cynadleddwyr yn astudio modiwlau e-ddysgu ar gyfer Iechyd priodol cyn mynychu. Bydd hyn yn cynnwys tua 5 awr o astudiaeth. Bydd trefnwyr y cwrs yn rhoi mwy o wybodaeth am y modiwlau 4 wythnos cyn i’r cwrs ddechrau. Bydd y cwrs yn gyfwerth â 7 ‘pwynt’ datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hwn yn gwrs amlddisgyblaethol a gwahoddir ceisiadau gan: Feddygon a nyrsys yn gweithio mewn ymarfer cyffredinol, cynllunio teulu ac iechyd atgenhedlol, GUM, cynghorwyr iechyd, meddygon iechyd gofal eilaidd a allai ddod ar draws cleifion ag STIs – e.e O&G, A&E, rhewmatoleg ac offthamoleg, fferyllwyr, nyrsys ysgol. Ffi y cwrs (yn cynnwys Cinio a Choffi/Te): £100 Am fwy o fanylion gweler y daflen ynghlwm (yn Saesneg), sydd hefyd yn cynnwys amserlen a ffurflen archebu.
|
|