Croeso i Gyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan
Ar y wefan hon gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ddogfennau, adnoddau, ymchwil a pholisïau defnyddiol; enghreifftiau o waith iechyd rhywiol ledled Cymru a gwybodaeth am y Rhwydwaith. Gallwch ymuno â Chyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan trwy lenwi’r ffurflen aelodaeth ar-lein.
Rydym wedi dylunio’r wefan hon i weithredu fel ‘porth’ ar gyfer gwybodaeth am iechyd rhywiol, gyda dolenni a manylion cyswllt i’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Byddem hefyd yn dymuno i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes iechyd rhywiol allu defnyddio’r wefan hon i rannu gwybodaeth a rhyngweithio gyda’r Rhwydwaith.
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth neu awgrymiadau a allai fod yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd rhywiol, cysylltwch ag Adam Jones